Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA185 - Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed ar:22 Hydref 2012
Fe’u gosodwyd ar:23 Hydref 2012
Yn dod i rym ar:16 Tachwedd 2012
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
Dim
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
Dim
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Uwchgadarnhaol
CLA184 – Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012
Gweithdrefn: Uwchgadarnhaol.
Fe’i gwnaed ar: heb ei nodi.
Fe’i gosodwyd ar: heb ei nodi.
Yn dod i rym ar: yn unol ag erthygl 1.
Derbyniodd y Pwyllgor yr Adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 ar yr offeryn statudol hwn, sydd wedi’i atodi yn Atodiad 1.
Busnes arall
Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Ystyriodd y Pwyllgor Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd. Roedd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru roi cymal machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaeth.
Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon ar y Memorandwm, er ei fod yn nodi bod Llywodraeth Cymru, mewn adroddiad blaenorol ar ‘rinweddau’ offeryn statudol, wedi nodi amwysedd ynghylch y defnydd o ddarpariaethau adolygu. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â hynny.
Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Gweinidog am fethu â bod yn bresennol oherwydd rhesymau personol.
Ystyriodd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd ar 24 Hydref 2012. Roedd y Pwyllgor yn fodlon ar y cyfan ag eglurhad y Gweinidog o’r materion a godwyd yn llythyr y Cadeirydd.
O ran pensiynau i aelodau o Dribiwnlys y Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, nododd y Pwyllgor farn Llywodraeth Cymru nad oedd angen adnewyddu unrhyw gymhwyster a arferai fodoli o dan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ond yr oedd disgwyl iddi fodoli bellach o dan Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Roedd hyn oherwydd fod y pŵer i wneud darpariaethau ‘cysylltiedig’ o dan adrannau 108(3) i (5) i’r Ddeddf yn dal ar gael.
Nododd y Pwyllgor barodrwydd y Llywodraeth i ymestyn yr amser ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol er mwyn galluogi Comisiwn y Cynulliad i’w ystyried mewn perthynas â chynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad ac am fod y Bil ei hun mewn cyfnod cymharol gynnar o’r broses o’i ystyried yn y Senedd. Nododd y Pwyllgor ymhellach y byddai ystyriaeth y Goruchaf Lys o Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) yn cael effaith ar y gallu i ystyried pensiynau i aelodau Tribiwnlys y Gymraeg yn ddarpariaeth gysylltieidig.
Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon ar y Memorandwm, yn amodol ar sylwadau Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas â chynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor y dylid ystyried y mater ymhellach ar ôl cael gwybod am benderfyniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â hynny.
Gohebiaeth y Pwyllgor
CLA178 – Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012
Nododd y Pwyllgor ymateb John Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, i lythyr y Cadeirydd ar 11 Hydref ynghylch y pwyntiau rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2012 (CLA178).
Cytunodd y Pwyllgor fod diffyg eglurder o hyd ynghylch ardal y parthau eithrio o gofio bod y Gyfarwyddeb UE yn nodi lleiafswm maint ardal, y gellir ei chynyddu gan Weinidogion heb fod angen deddfwriaeth bellach. Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i’r Gweindiog, yn croesawu ei fwriad i ddiwygio’r ddeddfwriaeth yn ystod yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau er mwyn cynnwys cyfeiriad at bellteroedd y parthau gwyliadwraeth, ond yn gofyn am wybodaeth ynghylch sut bydd y parthau gwyliadwraeth yn cael eu cyhoeddi yn y cyfamser.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
5 Tachwedd 2012
Atodiad 1
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-22-12)
CLA184
Teitl: Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012
Gweithdrefn: Uwchgadarnhaol
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i ffïoedd fod yn daladwy gan gyflenwr dŵr perthnasol am gyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 gan arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf honno.
Craffu technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd y pwyntiau canlynol i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.-
Er bod y pwnc (cyfrifo ffioedd archwilio a rhai cysylltiedig) yn un sy’n fwy tebygol o fod mewn offerynnau statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol, mae’r offeryn hwn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn uwchgadarnhaol yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
Gwneir gorchmynion i’r un diben ar gyfer Cymru a Lloegr, ond oherwydd bod y pwerau galluogi yn wahanol, defnyddir dau offeryn yn hytrach nag un ar y cyd. Mantais hyn yw bod y ddeddfwriaeth sy’n gymwys i Gymru yn cael ei gwneud yn ddwyieithog.
[ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad – Rheol Sefydlog 21.3(ii)]
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
5 Tachwedd 2012